Songtexte.com Drucklogo

Fel Hyn 'da ni Fod -Bwncath Songtext
von Bwncath

Fel Hyn 'da ni Fod -Bwncath Songtext

Pan oedden ni′n iau, er i'n cyrff fod mor frau
Roedd ′na awydd cryf i ddyfalbarhau
Rŵan yn hŷn 'da ni'n styfnig a blin
Ond er hyn yn dal i wenu ym mhob llun
A ti′n amau′n gry' fod y byd yn troi′n gynt nag o'r blaen
Wrth i′th feddyliau garlamu ymlaen
Mor frwd, mor ddiwyd fel morthwyl a chŷn
Mewn ymgais i siapio dy hun

Ond fel 'na wyt ti, a fel yna ti fod
Does ′na neb arall fel chdi yn bod


Wyt ti erioed wedi teimlo dan droed
Y rhai hyn sy'n dweud na fuon ni 'rioed
Glywaist ti′r ffaith mai dim ond dy iaith
Sy′n wahanol, sy'n dy ddal di yn ôl
Ond mae′n anodd gweld yn glir
Pan wyt ti dan draed
A phan mae'r ofnau yn llifo′n dy waed
Mi wêl fwy ar dy ddwy droed dy hun
Na phan ti'n plygu dy lin

Achos fel ′ma 'da ni a fel hyn 'da ni fod
Does ′na neb arall fel ni yn bod

Nawr o bob stryd hyd at lwyfan y byd
Y mae pawb yn syllu′n dawel, yn fud
Ar ambell i gawr, a'u twrw sy′n fawr
Maen nhw'n bygwth ysgwyd seiliau ein byd
Ond a sylwaist ti ar y rhai ar ymylon y llun
Gymaint sy′n ysu am fyw yn gytûn
Pa mor fawr yw cawr sydd yn caru ei gyd-ddyn
Ar ôl concro ei gywilydd ei hun

O fel 'ma ′da ni a fel hyn 'da ni fod
Does 'na neb arall fel ni yn bod
Does ′na neb arall fel ni yn bod

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Quiz
„Grenade“ ist von welchem Künstler?

Fans

»Fel Hyn 'da ni Fod -Bwncath« gefällt bisher niemandem.