Songtexte.com Drucklogo

Aberdaron Songtext
von Bwncath

Aberdaron Songtext

Pan fwyf yn hen a pharchus
Ag arian yn fy nghod
A phob beirniadaeth drosodd
A phawb yn canu ′nghlod

Mi brynaf fwthyn unig
Heb ddim o flaen ei ddôr
Ond creigiau Aberdaron
A thonnau gwyllt y môr

Pan fwyf yn hen a pharchus
A'm gwaed yn llifo′n oer
A'm calon heb gyflynnu
Wrth wylied codi'r lloer

Bydd gobaith im bryd hynny
Mewn bwthyn sydd â′i ddôr
At greigiau Aberdaron
A thonnau gwyllt y môr


Pan fwyf yn hen a pharchus
Tu hwnt i fawel a sen
A′m cân yn nôl y patrwm
A'i hangerdd oll ar ben

Bydd gobaith im bryd hynny
Mewn bwthyn sydd â′i ddôr
At greigiau Aberdaron
A thonnau gwyllt y môr

Oblegid mi gaf yno
Yng nghri'r ystormus wynt
Adlais o′r hen wrthyfel
A wybu f'enaid gynt

A chanaf â′r hen angerdd
Wrth syllu tua'r ddôr
Ar greigiau Aberdaron
A thonnau gwyllt y môr

Ar greigiau Aberdaron
A thonnau gwyllt y môr

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Quiz
Wer singt das Lied „Haus am See“?

Fans

»Aberdaron« gefällt bisher niemandem.